Sut mae atomau metel yn ffurfio ïonau?
Maen nhw'n colli electronau i ffurfio ïonau negatif
Maen nhw'n ennill electronau i ffurfio ïonau positif
Maen nhw'n colli electronau i ffurfio ïonau positif
Pa un o’r gosodiadau hyn am ïon negatif sy'n gywir?
Mae ganddo yr un nifer o brotonau ac electronau.
Mae ganddo fwy o brotonau nag electronau
Mae ganddo fwy o electronau na phrotonau
Beth sy'n digwydd pan mae atomau sodiwm a chlorin yn ffurfio sodiwm clorid?
Mae electron yn trosglwyddo o bob atom sodiwm i bob atom clorin
Mae electron yn trosglwyddo o bob atom clorin i bob atom sodiwm
Mae atomau sodiwm a chlorin yn rhannu electronau
Beth yw bond cofalent?
Bond sy'n ffurfio rhwng ïonau â gwefrau dirgroes
Bond sy'n ffurfio pan mae dau atom yn rhannu pâr o electronau
Bond sy'n cael ei ffurfio gan electronau dadleoledig
Mewn diagram dotiau a chroesau, beth mae pob dot a phob croes yn eu cynrychioli?
Niwtron
Proton
Electron
Beth yw nifer mwyaf y bondiau cofalent mae un atom carbon yn gallu eu ffurfio?
2
3
4
Pa gyfuniad o elfennau fydd yn ffurfio bondiau cofalent?
Atom metel ac atom metel arall
Atom metel ac atom anfetel
Atom anfetel ac atom anfetel arall
Pa osodiad am foleciwlau cofalent syml sy’n gywir?
Bondiau cryf rhwng atomau mewn moleciwlau, ond grymoedd gwan rhwng moleciwlau
Bondiau gwan rhwng atomau mewn moleciwlau, a grymoedd gwan rhwng moleciwlau
Bondiau gwan rhwng atomau mewn moleciwlau, ond grymoedd cryf rhwng moleciwlau
Pa rym sy'n cael ei oresgyn pan mae sylweddau moleciwlaidd cofalent yn ymdoddi neu'n berwi?
Grymoedd rhyngfoleciwlaidd
Bondiau cofalent yn y moleciwlau
Grymoedd electrostatig rhwng ïonau
Pa un o’r parau canlynol o elfennau fyddai'n ffurfio bondiau ïonig â'i gilydd?
Haearn a sylffwr
Haearn a chromiwm
Hydrogen a sylffwr