Beth yw'r term ar gyfer adwaith sy'n trosglwyddo egni gwres i'r amgylchoedd?
Endothermig
Cildroadwy
Ecsothermig
Pa newid tymheredd sy'n digwydd mewn adwaith endothermig?
Mae tymheredd yr amgylchoedd yn gostwng
Mae tymheredd yr amgylchoedd yn cynyddu
Mae tymheredd yr amgylchoedd yn aros yr un fath
Pa un o’r prosesau canlynol sy’n endothermig?
Torri bondiau yn yr adweithyddion
Ffurfio bondiau yn y cynhyrchion
Unrhyw adwaith hylosgi
Beth yw effaith adwaith os oes llai o egni'n gysylltiedig â thorri bondiau nag sy'n gysylltiedig â ffurfio bondiau?
Dydy'r adwaith ddim yn newid tymheredd yr amgylchoedd
Mae'r adwaith yn gwneud yr amgylchoedd yn oerach
Mae'r adwaith yn gwneud yr amgylchoedd yn gynhesach
Os yw'r newid egni ar ddiagram lefelau egni yn negatif, beth mae hyn yn ei ddweud wrthyt ti am yr adwaith?
Mae'n endothermig
Dim byd
Mae'n ecsothermig
Ar broffil adwaith, beth mae uchder y grib yn ei gynrychioli?
Yr egni actifadu
Y newid egni
Yr egni sy'n cael ei ryddhau wrth ffurfio bondiau newydd
Beth yw diffiniad egni actifadu?
Yr egni sydd ei angen i dorri pob bond yn yr adweithyddion
Yr egni sydd ei angen i wneud i adwaith ddechrau
Yr egni sy'n cael ei gynhyrchu wrth i'r adwaith ddigwydd
Egni bond y bond H-H yw 436 kJ. Pa un o’r gosodiadau hyn sy’n gywir?
Mae angen 436 kJ i dorri bond H-H
Mae angen 436 kJ i dorri un môl o fondiau H-H
Mae angen 436 kJ i dorri 436 o fondiau H-H
Os yw'r newidiadau egni yn ystod adwaith fel a ganlyn:
Egni i dorri'r bondiau = 150 kJ
Egni i ffurfio'r bondiau = 110 kJ
Pa un o’r canlynol yw'r cyfrifiad cywir o'r newid egni cyffredinol?
150 - 110 = 40 kJ
\(\frac{150 + 110}{2}\) = 130 kJ
150 + 110 = 260 kJ
Beth yw newid egni'r adwaith H-H + F-F → 2H-F? (Egnïon bond: H-H = 436 kJ, F-F = 158 kJ, H-F = 565 kJ)
+536 kJ
+29 kJ
-536 kJ