Pa restr sy'n dangos y metelau yn y drefn gywir â'r adweithedd yn cynyddu?
Haearn \(\textless\) alwminiwm \(\textless\) sinc
Haearn \(\textless\) sinc \(\textless\) alwminiwm
Sinc \(\textless\) alwminiwm \(\textless\) haearn
Pam dydyn ni ddim yn gallu echdynnu alwminiwm o fwynau alwminiwm drwy ei wresogi gyda charbon?
Mae alwminiwm yn anadweithiol
Mae alwminiwm yn ffurfio ocsid
Mae alwminiwm yn rhy adweithiol
Pa fetel sy'n bodoli yng nghramen y Ddaear heb gyfuno â dim byd?
Aur
Sinc
Magnesiwm
Pan fydd hoelen haearn yn cael ei gosod mewn hydoddiant copr(II) sylffad, beth fyddai’n digwydd i’r hoelen dros amser?
Byddai haenen lliw arian yn ymddangos o gwmpas yr hoelen
Byddai'r hoelen yn cael ei gorchuddio â haenen frown
Byddai'r hoelen yn diflannu
Pa osodiad am y gyfres adweithedd sy’n gywir?
Mae'r metelau isaf yn y gyfres adweithedd yn colli electronau'n haws na'r metelau uchaf yn y gyfres
Mae'r metelau uchaf yn y gyfres adweithedd yn adweithio'n llai egnïol na'r metelau isaf yn y gyfres
Mae'r metelau uchaf yn y gyfres adweithedd yn colli electronau'n haws na'r metelau isaf yn y gyfres
Pa un o’r metelau hyn sy'n llai adweithiol na hydrogen?
Copr
Haearn
Dyma ddau adwaith dadleoliad.
A + BSO4 → ASO4 + B
C + ASO4 → CSO4 + A
Beth yw trefn gywir adweithedd y metelau, A, B ac C?
C > B > A
C > A > B
B > A > C
Trefn adweithedd tri metel yw magnesiwm > sinc > copr. Pa un o’r hafaliadau hyn sy'n cynrychioli adwaith sydd ddim yn gallu digwydd?
Sinc + magnesiwm clorid → sinc clorid + magnesiwm
Sinc + copr(II) clorid → sinc clorid + copr
Magnesiwm + copr(II) clorid → magnesiwm clorid + copr
Mae sinc yn is na charbon yn y gyfres adweithedd. Pa ddull bydden ni'n gallu ei ddefnyddio i echdynnu sinc o'i fwyn?
Electrolysis yn unig
Rhydwytho â charbon neu garbon monocsid yn unig
Electrolysis neu rydwytho â charbon neu garbon monocsid
Pam mae alwminiwm yn ymddangos yn llai adweithiol nag ydyw mewn gwirionedd?
Mae alwminiwm yn adweithio'n gyflym ag ocsigen i ffurfio haen ocsid anadweithiol
Dim ond â rhai cemegion penodol mae alwminiwm yn adweithio
Mae alwminiwm yn agos at y ffin rhwng y metelau a'r anfetelau