Mae solid gwyn yn cael ei adael allan ar ôl i ddosbarth dacluso eu harbrawf. Yn ystod yr arbrawf, roedd un o'r disgyblion wedi tynnu'r label oddi ar y solid gwyn. Mae'r athro'n gwybod mai halid metel Grŵp 1 oedd y solid, felly mae'n cynnal prawf fflam ac yna brawf arian nitrad. Mae'r prawf fflam yn rhoi fflam goch, ac mae'r prawf arian nitrad yn rhoi gwaddod lliw hufen. Beth yw’r solid gwyn?