Wrth ychwanegu swm bach o ddŵr at ddarn solet o galsiwm ocsid, mae'n briwsioni i ffurfio solid o bowdr gwyn, sef calsiwm hydrocsid. Yn ystod yr adwaith mae'n ffisian, ac mae'n ymddangos bod ychydig bach o 'fwg' gwyn yn codi o'r adwaith pryd bynnag mae diferyn o ddŵr yn cael ei ychwanegu. Sut byddet ti'n esbonio'r arsylwadau hyn?