Ethanol a sbectrosgopeg [Cemeg yn unig] test questions

1

Pa grŵp gweithredol sy'n bresennol ym mhob alcohol?

2

Beth yw enw'r alcohol sydd â thri atom carbon ym mhob moleciwl?

3

Beth yw'r hafaliad geiriau ar gyfer eplesiad i gynhyrchu ethanol?

4

Pam mae Brasil yn defnyddio llawer o fioethanol fel tanwydd?

5

Pan mae ethanol yn dod i gysylltiad ag aer, pa gynnyrch sy'n ffurfio?

6

Pa gemegyn rydyn ni'n ei ddefnyddio i brofi am bresenoldeb grŵp alcohol?

7

Rydyn ni'n defnyddio ethanol fel biodanwydd. Beth yw'r hafaliad symbolau ar gyfer hylosgiad cyflawn ethanol?

8

Pa adeiledd sy'n cynrychioli ethanol?

3 fformiwla graffig wedi'u labelu A, B, C. A yw C2H6, B yw C2H5OH, a C yw C2H4.

9

Mae alcohol ac alcen yn mynd drwy sbectromedr isgoch. Ar ba rif ton mae brig yn ymddangos â'r alcohol yn unig?

10

Yn ystod eplesu, ar ba dymheredd mae siwgr (glwcos) o ddefnydd planhigol yn cael ei drawsnewid yn ethanol a charbon deuocsid?