Beth yw màs cymharol a gwefr gymharol niwtron?
Màs = 1 a gwefr = -1
Màs = 0 a gwefr = +1
Màs = 1 a gwefr = 0
Mae gan atom 13 proton ac 14 niwtron. Beth yw ei rif màs?
14
13
27
Mae gan atom rif atomig o 9 a rhif màs o 19. Beth yw niferoedd y protonau, y niwtronau a'r electronau sydd ynddo?
Protonau = 10, niwtronau = 19, electronau = 10
Protonau = 9, niwtronau = 10, electronau = 9
Protonau = 19, niwtronau = 10, electronau = 19
Beth yw isotopau?
Atomau o'r un elfen â niferoedd gwahanol o niwtronau
Atomau o'r un elfen â niferoedd gwahanol o brotonau
Atomau o'r un elfen â niferoedd gwahanol o electronau
Mae niferoedd y protonau a'r niwtronau mewn pedwar atom wedi'u rhoi isod. Pa ddau atom sy'n isotopau o'r un elfen?
W: 8 proton ac 8 niwtron
X: 8 proton a 10 niwtron
Y: 10 proton ac 8 niwtron
Z: 9 proton a 10 niwtron
X ac Y
W ac X
X a Z
Beth yw'r diffiniad gorau o fàs atomig cymharol elfen?
Nifer y protonau yn ei hatomau
Cyfanswm nifer y protonau a'r niwtronau yn ei hatomau
Màs cyfartalog ei hatomau o'i gymharu â deuddegfed rhan o fàs atom carbon-12
Beth yw uchafswm nifer yr electronau sy'n gallu mynd i'r plisgyn electronau cyntaf?
2
8
10
Fflworin yw elfen rhif 9 yn y tabl cyfnodol ac mae yn Grŵp 7, Cyfnod 2. Pa un yw adeiledd electronig gywir fflworin?
Beth yw adeiledd electronig alwminiwm (rhif atomig 13)?
3,8,2
2,3,8
2,8,3
Mae gan neon ddau isotop cyffredin. Mae 90% o atomau neon yn neon-20 ac mae 10% o atomau neon yn neon-22. Beth yw màs atomig cymharol neon?
20
20.2
21.8