Beth sy’n bwysig am y dysglau Petri a ddefnyddir i wneud platiau agar?
Maent wedi’u gwneud o wydr
Cânt eu diheintio cyn eu defnyddio
Maen nhw’n llawn agar
Pa un o’r rhain sy’n ddull a ddefnyddir mewn techneg aseptig?
Cyffwrdd yr agar i wneud yn siŵr ei fod wedi oeri
Tynnu caead y ddysgl Petri’n gyfan gwbl
Gwresogi’r ddolen wrth-heintio yn boethgoch yn y fflam Bunsen
Pam mae’n rhaid cynnwys nitrogen yn y cawl maetholion a ddefnyddir i dyfu microbau?
Ar gyfer ynni
Ar gyfer resbiradaeth
Ar gyfer synthesis protein
Pa ddarn o gyfarpar a ddefnyddir i drosglwyddo bacteria i blât agar?
Pibed
Dolen wrth-heintio
Dysgl Petri
Ar ba dymheredd y dylai platiau wedi’u gwrth-heintio gael eu magu yn labordy’r ysgol?
25°C
35°C
45°C
Pa dybiaeth a wneir wrth ddefnyddio platiau agar i gyfrif bacteria mewn sampl?
Bod y bacteria i gyd wedi marw
Bod pob cytref bacteria yr un fath
Bod pob cytref bacteria wedi’i ffurfio o un gell yn unig
20 munud yw amser rhannu cymedrig poblogaeth bacteria A. Os dechreuir arbrawf gydag un bacteriwm, faint o facteria fydd yn bresennol wedi dwy awr os cânt eu cadw mewn amodau optimal?
6
64
128
Beth yw swyddogaeth y siaced ddŵr mewn eplesydd?
Gadael maetholion i mewn
Profi’r pH
Oeri’r eplesydd
Beth yw swyddogaeth yr hidlen ar y fewnfa aer mewn eplesydd?
Atal microbau rhag gadael yr eplesydd
Atal halogi’r eplesydd
Gadael asidau ac alcalïau i mewn i’r eplesydd
Sut mae cadw bwyd mewn rhewgell yn ei arbed rhag difetha?
Mae’n atal twf bacteria
Mae’n arafu twf bacteria
Mae’n lladd bacteria