Beth ydy ystyr dehongli?
Sgript a ysgrifennwyd mewn iaith arall yn wreiddiol
Y dewisiadau ynglŷn â sut i chwarae golygfa neu lwyfannu sioe
Cymryd drama a’i pherfformio mewn ffurf ddramatig wahanol, megis Theatr Gerdd neu Gorfforol
Pa un o’r datganiadau hyn sydd ddim yn wir?
Pan geir pedwaredd wal mae’r gynulleidfa’n gwylio’n oddefol
Pan geir pedwaredd wal does dim cyswllt uniongyrchol rhwng yr actorion a’r gynulleidfa
Pan geir pedwaredd wal mae’r gynulleidfa’n cymryd rhan
Am beth fyddi di’n meddwl wrth ystyried llinellau golwg?
Ydy’r actorion ar y llwyfan yn gallu gweld ei gilydd yn glir
Ydy’r gynulleidfa i gyd yn gallu gweld o ble maen nhw’n eistedd
Sut i guddio’r sgript ar y llwyfan er mwyn i’r actorion allu cyfeirio ati os ydyn nhw’n anghofio’u llinellau
Beth ydy blocio?
Penderfyniadau am ble mae actorion yn dod i mewn, yn gadael ac yn sefyll a symud
Rhannu’r dramâu’n ddarnau i ymarfer
Mynd ar draws actor arall yn ddamweiniol
Ble ydy’r safle cryfaf ar y llwyfan?
Cefn y llwyfan i’r chwith
Blaen y llwyfan ar y dde
Canol blaen y llwyfan
Gwaith pa ymarferwr theatr oedd ddim yn dibynnu ar unrhyw set, goleuadau na gwisgoedd ond a oedd yn dibynnu ar yr actor i greu theatr?
Jerzy Grotowski
Bertolt Brecht
Konstantin Stanislavski
Ar gyfer gwaith pa un o’r ymarferwyr theatr hyn fyddet ti’n gwneud goleuadau, set a gwisgoedd mor realistig a dilys â phosib?
Beth ydy cysyniad?
Yr hyn mae’r ddrama’n sôn amdano
Gweledigaeth gyffredinol y darn, megis gosod y ddrama mewn cyfnod gwahanol
Lle mae’r gynulleidfa’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd cyn y cymeriadau
Beth sy’n cael ei ddynodi wrth i ti dorri testun yn adrannau bach naturiol?
Unedau o weithgaredd
Adrannau’r cynnwys
Blociau o ddrama
Pam y gallai fod yn ddiddorol yn ddramatig i gael saib ar ôl darn o waith cyflym?
Mae’n creu cyferbyniad
Mae’n gyfle i’r actorion gael eu gwynt atynt
Mae’n profi i’r gynulleidfa fod yr actorion yn amryddawn