Beth yw daeargryn?
Cyfnod sydyn a byr pan mae’r ddaear yn crynu
Magma yn echdorri o’r ddaear
Platiau’r Ddaear yn symud gan greu tir newydd
Beth yw ystyr bod yn agored i niwed?
Maint llosgfynydd
Y gallu i ymdopi â, gwrthsefyll a dod dros effaith perygl
Nifer y bobl sydd wedi marw o beryglon naturiol, er enghraifft llosgfynydd
Beth mae VEI (Mynegrif Ffrwydroldeb Folcanig) yn ei fesur?
Yr arwynebedd sy’n cael ei effeithio gan echdoriad folcanig
Uchder a chyfaint y bluen neu’r ffrwd o ddeunydd sy’n cael ei saethu allan o losgfynydd.
Nifer yr echdoriadau folcanig sy’n digwydd bob blwyddyn
Sawl gwaith yn fwy yw daeargryn maint deg na daeargryn maint naw?
Un
Deg
100
Pa ffactor cymdeithasol sy’n debygol o gynyddu bygythiad y perygl i bobl?
Maint y boblogaeth
Cryfder y daeargryn neu’r llosgfynydd
Gallu gwlad i hyfforddi a darparu adnoddau i’w gwasanaethau brys
Pa un o’r rhain sy’n enghraifft o effaith ffisegol sy’n gysylltiedig â llosgfynyddoedd?
Mae busnesau’n cael eu gorfodi i gau
Gallai llif pyroclastig ddigwydd
Mae pobl yn cael eu lladd neu eu hanafu
Beth sy’n enghraifft o ymateb sy’n helpu i leihau effaith perygl naturiol mawr?
Caniatáu i sefydliadau ddod i mewn i wlad i geisio lleihau anghydraddoldeb a thlodi
Sefydlu cylchfaoedd ymgilio a mapio’r perygl
Adeiladu cartrefi newydd sy’n gallu gwrthsefyll daeargrynfeydd
Beth yw effaith tebygol tai sydd wedi cael eu hadeiladu’n wael?
Gwneud pobl yn fwy agored i gael eu niweidio gan y perygl
Gwneud pobl yn llai agored i gael eu niweidio gan y perygl
Cael dim effaith ar ba mor agored i gael eu niweidio gan y perygl yw pobl
Pa nwy sy’n cynyddu wrth i chi fynd yn agosach at echdoriad folcanig?
Ocsigen
Sylffwr deuocsid
Hydrogen
Wrth fapio peryglon, pa liw sy’n aml yn ardal dan waharddiad?
Coch
Oren
Gwyrdd