Pa un o’r rhain sydd ddim yn gyfrwng drama?
Mygydau
Llais
Theatr Gorfforol
Ym mha fath o theatr oedd yr actorion i gyd yn gwisgo mygydau?
Groegaidd
Yr Adferiad
Corfforol
Pa un o’r pethau hyn ddylet ti ddim dibynnu ar gerddoriaeth i’w wneud?
Cynyddu a chreu tyndra
Helpu i gyfoethogi awyrgylch
Helpu i wneud golygfa anniddorol yn fwy cyffrous
Beth ydy ystyr cynefineg?
Y ffordd y caiff y gofod ei ddefnyddio i amlygu’r berthynas rhwng cymeriadau ar y llwyfan
Y berthynas rhwng yr actorion a’r gynulleidfa
Defnyddio llawer o lefelau yn y ddrama
Ar gyfer beth y gall lefelau gael eu defnyddio?
I reoli sain a chyflymder
I wneud y gwaith yn ddiddorol yn weladwy, awgrymu statws a nodi lleoliadau gwahanol ar y llwyfan
I wneud yn siŵr fod y llwyfan yn edrych yn llawn
Beth ydy set?
Darn o’r ddrama sy’n cael ei hailadrodd
Yr olygfa a’r dodrefn ar y llwyfan
Yr hyn mae’r actorion yn ei wisgo a’i gario
Beth ydy’r eitemau mae actorion yn eu dal i wneud y ddrama’n fwy realistig?
Gwrthrychau
Set
Propiau
Beth ydy’r enw am ddangos gweithred gyda gwrthrych dychmygol?
Meim
Esgus
Beth ydy ystum?
Gair arall am symudiad ar y llwyfan
Perfformiwr comedi, fel clown
Symudiad penodol sy’n cyfleu ystyr yn glir
Beth ydy cywair iaith?
Math arbennig o siarad rhwng cymeriadau, ee ffurfiol neu anffurfiol
Rhestr o’r llinellau a gaiff eu llefaru mewn cynhyrchiad, i’w defnyddio os bydd angen ciw ar yr actorion
Rhestr o eiriau ddylet ti ddim eu defnyddio mewn perfformiad, ee rhegfeydd