Beth ydy cyfathrebu dieiriau?
Meimio gweithred yn lle defnyddio geiriau
Dweud llinellau sydd i’r gwrthwyneb i’r ffordd rwyt ti’n teimlo mewn gwirionedd
Yr hyn mae iaith dy gorff yn ei gyfleu, os byddi di’n siarad neu beidio
Pam mae tôn y llais mor bwysig?
Mae’n cyfleu emosiwn
Mae’n cadw dy lais yn uchel
Mae’n gwneud dy lais yn braf i wrando arno
Pa ganran o gyfathrebu sydd drwy eiriau llafar yn ôl gwyddonwyr?
7%
27%
55%
Sut fyddai cymeriad hyderus yn sefyll?
Yn gefngrwm gyda’r breichiau wedi eu croesi
Yn dalsyth gyda’r breichiau wedi ymlacio wrth ei hochr
Yn syllu ar y llawr
Beth ydy’r term cywir am y nodyn cerddorol rwyt ti’n siarad arno?
Lefel
Traw
Tôn
Pam mae amrywio cyflymder wrth siarad yn bwysig?
Mae’n cadw cyffro’r geiriau ac yn atal y gynulleidfa rhag diflasu
Os na fyddi di’n gwneud hynny, bydd pobl yn meddwl dy fod yn adrodd cerdd
Mae’n ychwanegu elfen o ddirgelwch i dy berfformiad
Beth ydy’r enw am y llinell y mae’r actor yn ei ddweud cyn dy linell di?
Cyw
Ciw
Cliw
Beth ydy cadair boeth?
Cael dy holi fel actor am dy brofiad actio
Symud i wahanol rannau o’r llwyfan i gadw’r ddrama’n ddiddorol
Strategaeth ymchwilio i holi cymeriad a dysgu mwy amdano
Beth ydy ystyr cymhelliad cymeriad?
Yr hyn mae cymeriad am ei gyflawni a’r hyn sy’n ei ysgogi i ymddwyn mewn ffordd arbennig
Yr hyn mae’r dramodydd am ei gyflawni drwy gyflwyno’r cymeriad
A ydy’r cymeriad yn weithgar neu’n ddiog
Wrth ddatblygu cymeriad, pam mae’n bwysig ystyried ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol?
Er mwyn peidio â drysu’r gynulleidfa
Er mwyn i ti gael adolygiad da
Er mwyn i ti ddeall byd y ddrama’n iawn a sut y bydd hynny’n effeithio ar dy gymeriadu