Beth yw enw’r lle tywyll yr oedd Iddewon cynnar yn credu y byddai’r meirw’n disgyn iddo?
Nefoedd
Sheol
Atgyfodiad
Beth yw atgyfodiad?
Y gred y bydd credinwyr yn codi o farw'n fyw ar Ddydd y Farn
Y gred pan fydd rhywun yn marw fod ei ewyllys yn dod yn ôl mewn corff arall ar y Ddaear
Y gred pan fydd rhywun yn marw ei fod yn dal i fyw yng nghof pobl eraill
Beth mae Iddewiaeth yn ei ddysgu am fywyd wedi marwolaeth?
Bydd pobl yn dychwelyd i fyw bywyd dynol arall ar y Ddaear
Gall pobl ddychwelyd wedi marwolaeth i fyw bywydau fel anifeiliaid neu fodau dynol
Sut mae pobl yn byw nawr sy’n bwysig; gellir gadael popeth arall i Dduw
Pwy mae rhai Iddewon yn credu fydd yn dod cyn barnedigaeth yn y dyfodol?
Elias
Y Mashiach
Moses
Beth yw ystyr y term Iddewig Olam Ha-Ba?
Dydd y Farn
Y Byd a Ddaw
Atgyfodiad y Corff
Beth mae rhai Iddewon yn ei gredu am yr enaid?
Mae gan fodau dynol enaid a osodir mewn corff arall, anifail neu fod dynol, wedi iddyn nhw farw
Mae gan y byd enaid, a bydd pob enaid dynol yn cael ei amsugno yn y diwedd i enaid y byd
Mae gan bob bod dynol enaid a fydd yn dychwelyd at Dduw ryw ddydd
Yn ôl rhai Iddewon, ar beth y bydd Duw’n barnu ei bobl pan ddaw’r farnedigaeth?
Ar ba mor dda y maen nhw wedi cadw ei ddeddfau
Ar faint o arian y maen nhw wedi ei roi i’r synagog
Ar a ydyn nhw’n credu mewn Gan Eden a Gehenna
Pa weddi fydd Iddewon yn ceisio’i dweud pan fyddan nhw’n marw?
Y Shema
Y Torah
Y tallith
Beth mae Iddewon yn ei osod dros gorff yr ymadawedig?
Y chevra kadisha
Blodau
Tallith
Pa fudiad o Iddewiaeth sydd ddim yn caniatáu amlosgi?
Iddewon Diwygiedig
Iddewon Uniongred
Iddewon Rhyddfrydig