Beth ddigwyddodd i brisiau tai yn America ar ôl 1926?
Codi’n ddramatig
Codi’n raddol
Gostwng
Pam roedd llai o alw am nwyddau erbyn 1929?
Nid oedd pawb yn America yn gallu fforddio'r nwyddau newydd
Doedd neb eisiau'r nwyddau newydd
Doedd y nwyddau newydd ddim o safon uchel
Sut wnaeth gwledydd Ewrop ymateb i Ddeddf Tollau Fordney-McCumber?
Gosod trethi ar nwyddau Americanaidd
Lleihau trethi ar nwyddau Ewropeaidd
Caniatáu llwythi o nwyddau i’r UDA am ddim
Beth oedd y rheswm tymor byr dros ddiwedd sydyn ffyniant yn 1929?
Gorgynhyrchu ym myd diwydiant
Gorgynhyrchu ym myd amaeth
Hapfasnachu
Beth mae prynu cyfranddaliadau ‘ar y ffin’ yn ei olygu?
Mentro prynu cyfranddaliadau nad ydynt, o bosib, yn broffidiol
Prynu cyfranddaliadau yn answyddogol
Benthyg arian i brynu cyfranddaliadau a’u gwerthu pan maen nhw’n werth mwy
Sut y cyfeirir at 24 Hydref 1929?
Dydd Iau Du
Cwymp Wall Street
Y Dirwasgiad Mawr
Faint o gyfranddaliadau a werthwyd am brisiau isel iawn ar 29 Hydref 1929?
12 miliwn
16 miliwn
20 miliwn
Faint o Americanwyr oedd yn ddi-waith erbyn diwedd 1929?
2.5 miliwn
5.5 miliwn
7.5 miliwn
Faint o bobl oedd wedi buddsoddi yn y farchnad stoc erbyn 1929?
4 miliwn
40 miliwn
Ychydig o reoliadau oedd gan y banciau cyn 1929. Beth mae hyn yn ei olygu?
Dim ond ychydig o reolau oedd yna i redeg banc
Roedd yn anodd sefydlu banc oherwydd bod nifer o reolau a rheoliadau
Roedd rhaid i berchnogion banciau gael arian i dalu cynilion i bobl os oeddent am ei gael yn ôl