Sut rydyn ni’n cyfrifo'r gwaith sy'n cael ei wneud?
Gwaith sy'n cael ei wneud = màs × pellter symud
Gwaith sy'n cael ei wneud = grym ÷ pellter symud
Gwaith sy'n cael ei wneud = grym × pellter symud
Beth yw unedau gwaith sy'n cael ei wneud?
Newtonau
Jouleau
Watiau
Beth fyddai'r gwaith sy'n cael ei wneud wrth gludo llyfr un cilogram i fyny grisiau ag uchder o 15 metr?
1.5 joule
15 joule
150 joule
Beth mae gwaith sy'n cael ei wneud yn ei fesur?
Trosglwyddo egni
Y grym sy’n cael ei ddefnyddio i symud gwrthrych
Y pellter mae gwrthrych yn symud pan gaiff grym ei roi arno
Sut rydyn ni’n cyfrifo egni potensial disgyrchiant ar y Ddaear?
Pwysau × uchder
Grym × uchder
Màs × uchder
Sut rydyn ni’n cyfrifo egni cinetig?
m × v2
pellter ÷ amser
0.5 × m × v2
Pa un o'r rhain sy'n achosi'r cynnydd mwyaf i egni cinetig car?
Dyblu'r màs
Dyblu'r cyflymder
Mae'r ddau yr un fath
Faint o egni potensial disgyrchiant fyddai'n cael ei ennill wrth gludo llyfr 1 cilogram i fyny grisiau ag uchder o 15 metr?
Wrth i ni ymestyn gwrthrych elastig, y cynnydd yn ei hyd yw'r estyniad. Beth yw'r berthynas rhwng estyniad y gwrthrych a'r grym sydd arno?
Mae estyniad gwrthrych elastig mewn cyfrannedd gwrthdro â'r grym sy'n cael ei roi arno
Mae estyniad gwrthrych elastig mewn cyfrannedd union â'r grym sy'n cael ei roi arno
Mae estyniad gwrthrych elastig mewn cyfrannedd union â'r grym sy'n cael ei roi arno wedi'i sgwario (x α F2)
Yn ogystal â gwregys diogelwch, pa nodweddion eraill mewn ceir sy’n amsugno egni cinetig?
Bymperi a sgriniau gwynt
Brêcs a chloi canolog
Bagiau aer a chywasgrannau