Cynhaliwyd arolwg ymhlith 400 o dwristiaid yn gofyn pa rai o’r mynyddoedd canlynol roedden nhw wedi ymweld â nhw, os unrhyw un o gwbl.
- Yr Wyddfa
- Scafell Pike
- Ben Nevis
Roedd 67 o’r ymwelwyr wedi ymweld â’r Wyddfa a Scafell Pike ac, o’r rhain, roedd 8 wedi ymweld â’r 3 mynydd.
Roedd 23 person wedi ymweld â Ben Nevis a Scafell Pike ond nid Yr Wyddfa.
Roedd 125 person wedi ymweld â Ben Nevis.
Roedd 137 person wedi ymweld â’r Wyddfa.
Rhoddir mwy o wybodaeth yn y diagram Venn isod. Faint o ymwelwyr wnaeth ddim ymweld ag unrhyw un o’r 3 mynydd?