Ym mha ganrif roedd Brecht yn gweithio?
Yr 20fed ganrif
Y 19eg ganrif
Y 18fed ganrif
O ba wlad roedd Brecht yn dod?
Ffrainc
Unol Daleithiau America
Yr Almaen
Sut daeth Brecht i fod yn ddinesydd di-wladwriaeth?
Gofynnodd am gael bod yn ddinesydd Rwsia ond fe’i gwrthodwyd
Dihangodd o’r Almaen yn y 1930au a diddymodd y Natsïaid ei ddinasyddiaeth
Roedd yn cefnogi’r Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd
Beth oedd enw’r cwmni theatr a grëwyd gan Brecht?
Berliner Ensemble
D'Oyly Carte Opera Company
Theatr Kabuki
Beth ydy ystyr gestus mewn theatr Frechtaidd?
Hwn oedd term Brecht ar gyfer symudiad neu ystum cymeriad
Cipio moment benodol mewn modd corfforol sy’n golygu bod y gynulleidfa’n gwerthfawrogi cyd-destun yr ystum neu’r ymateb
Dyma’r syniad o bellhau cynulleidfa gyda’r hyn sy’n digwydd ar y llwyfan
Beth ydy ystyr torri’r bedwaredd wal?
Dinistrio unrhyw rith dy fod yn gwylio bywyd go iawn a gwneud i’r gynulleidfa feddwl yn wrthrychol
Ailffurfio strwythur yr ardal berfformio mewn theatr
Rhoi teimlad i’r gynulleidfa eu bod yn yr un ystafell â’r actorion
Beth ydy montage mewn theatr Frechtaidd?
Cyfres o olygfeydd unigol sy’n gweithio’n effeithiol drwy eu cyfosod
Nifer o luniau bach gyda’i gilydd sy’n boblogaidd am ei fod yn hawdd ei gynhyrchu ar y cyfrifiadur
Defnyddio cysgodion wrth adrodd stori
Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng Theatr Epig a’r hyn roedd Brecht yn ei alw’n Theatr Ddramatig?
Mae Theatr Epig yn ymdrin â mythau a chwedlau ond mae gan Theatr Ddramatig ddiwedd trist
Mae Theatr Epig yn gosod cwestiynau a heriau i’r gynulleidfa ond mae gan Theatr Ddramatig blot sy’n dod i gasgliad ar y diwedd
Mae Theatr Epig yn fawr ac mae Theatr Ddramatig yn emosiynol
Beth ydy verfremdungseffekt?
Mae Brecht am i bobl feddwl yn wrthrychol am yr hyn maen nhw’n ei weld felly mae’n defnyddio technegau i bellhau’r gynulleidfa
Mae Brecht am bellhau’r gynulleidfa o’r hyn maen nhw’n ei weld
Mae Brecht am i’r gynulleidfa gydymdeimlo â’r hyn maen nhw’n ei weld
Beth ydy aml-rannau?
Pan fydd actor yn chwarae mwy nag un cymeriad ar y llwyfan
Pan fydd nifer o actorion yn chwarae’r un rhan
Pan fydd actor gwrywaidd a benywaidd yn chwarae’r un rhan