Pa un o’r canlynol sy’n sgil llythrennedd ddigidol?
Gallu dod o hyd i ffynonellau gwybodaeth electronig
Gallu tynnu lluniau electronig
Gallu dod o hyd i wybodaeth sydd ar bapur
Beth yw ystyr credadwy mewn cysylltiad â ffynhonnell gwybodaeth?
Mae’n bosibl credu ei bod yn wir
Nid yw’n ffynhonnell ddilys a gwir
Nid yw’n cynnwys tystiolaeth
Beth yw'r geiriau Cymraeg ar gyfer yr acronym Saesneg SMART?
Hanfodol, mesuradwy, cyraeddadwy, perthnasol
Penodol, mesuradwy, cytunedig, realistig, amserol
Syml, mesuradwy, atyniadol, realistig, tymhorol
Beth yw cyfradd ymgysylltu yn y cyfryngau cymdeithasol?
Nifer y trawiadau ar wefan
System sy’n mesur nifer y bobl sy’n hoffi, yn gwneud sylwadau ac yn rhannu postiad
Metrig sy’n mesur bodlonrwydd cwsmeriaid
Beth yw’r tair elfen sy’n rhan o strategaeth cynnwys?
Y math o gynnwys sydd yn y postiad, amseriad y postiadau ac amlder y postiadau
Y math o gynnwys sydd yn y postiad, y bobl i ysgrifennu’r cynnwys yn y postiad a’r graffigwaith i’w ddefnyddio yng nghynnwys y postiad
Y math o gynnwys sydd yn y postiad, y geiriau i’w defnyddio yng nghynnwys y postiad ac amseriad y postiad
Beth yw rhwydweithio cymdeithasol?
Trefnu i gyfarfod pobl wyneb yn wyneb
Gwneud cysylltiadau gyda phobl nad oes gen ti ddim byd yn gyffredin â nhw
Gwneud cysylltiadau gyda phobl mae gen ti rywbeth yn gyffredin â nhw
Beth yw seiberstelcio?
Anfon gwybodaeth bersonol at bobl eraill, gan gynnwys ffotograffau a chlipiau fideo
Anfon gwybodaeth ffug at bobl eraill
Anfon negeseuon sy’n cynnwys bygythiad o niwed at rywun, neu sy’n codi braw arno, dro ar ôl tro
A oes sicrwydd na fydd gwybodaeth sy’n cael ei rhoi ar gyfryngau cymdeithasol byth yn cael ei gweld eto ar ôl iddi gael ei dileu?
Oes
Nac oes
Weithiau
Beth yw ystyr y term mynd yn feiral?
Postiad sy’n cael ei rannu, ei gopïo a’i ledaenu ar draws platfformau cymdeithasol
Gwefan sy’n sicrhau’r nifer mwyaf o ddefnyddwyr
Postiad sydd a firws ynddo
Beth yw ystyr y term trolio?
Postio sylwadau cas am rywun
Anfon negeseuon a sylwadau yn ddi-baid
Anwybyddu negeseuon a sylwadau rhywun