Beth yw'r gydran hon?
Deuod
Deuod allyrru golau (LED)
Lamp
Pa un yw'r symbol cywir ar gyfer cyflenwad pŵer c.e.?
Graff cerrynt-foltedd ar gyfer beth yw hwn?
Gwrthydd
Pa gylched sy'n gylched baralel?
Pa gylched sy'n tynnu'r cerrynt lleiaf o'r gell, gan dybio bod y ddwy gell yn unfath?
A
B
Mae'r ddwy yr un fath
Mae batri 6 V wedi'i gysylltu â lamp. Mae'r cerrynt yn 2 A. Beth yw gwrthiant y lamp?
3 Ohm
6 Ohm
12 Ohm
Beth sy’n digwydd i wrthiant thermistor wrth i'r tymheredd gynyddu?
Mae’n cynyddu
Mae’n aros yr un fath
Mae’n lleihau
Beth sy’n digwydd i wrthiant LDR (gwrthydd dibynnol ar olau) wrth i lefel y golau gynyddu?
Beth yw cyfanswm gwrthiant y tri gwrthydd sydd wedi'u cysylltu mewn cyfres?
25 Ω
2.5 Ω
0.25 Ω
Beth yw cyfanswm gwrthiant y tri gwrthydd sydd wedi'u cysylltu'n baralel?
36 Ω
3.27 Ω
12 Ω