Pa un o’r gwledydd isod sy’n wlad newydd ei diwydianeiddio (NIC)?
Y DU
Kenya
India
Beth yw ystyr dinas global?
Dinas sydd â llawer o gysylltiadau â llefydd eraill yn y byd
Dinas sydd â phoblogaeth o 10 miliwn o bobl
Dinas lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn dod o wledydd eraill
Beth yw ystyr mudo gwledig-trefol?
Pan mae pobl yn symud o'r ddinas i gefn gwlad
Pan mae pobl yn symud o gefn gwlad i'r ddinas
Pan mae pobl yn symud o un ddinas i'r llall
Beth yw ystyr masnach rydd?
Pan does gan wledydd ddim hawl i fewnforio ac allforio cymaint o nwyddau a gwasanaethau ag y mynnent
Pan mae gan wledydd hawl i fewnforio ac allforio cymaint o nwyddau a gwasanaethau ag y mynnent
Pan mae gan wledydd bartneriaethau â sefydliadau er mwyn sicrhau tâl teg
Beth sy’n enghraifft o ffactor tynnu?
Newyn a sychder
Diweithdra
Gofal iechyd gwell
Beth yw effaith gadarnhaol twristiaeth ar Kenya, sy’n wlad incwm isel (LIC)?
Mae ystod o gwmnïau amlwladol (MNCs), gwestai a busnesau yno
Mae’n gorfodi pobl nomadaidd oddi ar eu tir
Mae’n darparu cyfleoedd newydd am swyddi a chyflogau uwch i bobl leol
Pa sefydliad isod sy’n gorff anllywodraethol (NGO)?
Tanzania
Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Oxfam
Beth mae'r term cymorth yn ei olygu?
Help sy’n cael ei roi rywun sy’n sâl neu wedi'i anafu nes bod triniaeth feddygol broffesiynol ar gael
Math o nawdd, ariannol fel arfer, er mwyn helpu gwledydd tlotach i ddatblygu
Yn aml, mae biliwnyddion cefnog yn rhoi cymorth i wledydd cyfoethog
Beth yw ystyr diddymu dyled?
Pan mae sefydliadau fel y Cenhedloedd Unedig yn helpu gwledydd
Pan mae cymorth yn cael ei roi i wlad ar ôl trychineb naturiol
Pan mae gwlad gyfoethog yn dweud nad oes angen i wlad dlawd dalu’r arian yn ôl iddi
Beth yw ystyr cymorth tymor byr mewn argyfwng?
Rhaglen o gymorth parhaus â'r bwriad o wella safonau byw, fel addysg ar gyfer pobl ifanc
Darparu cymorth mewn argyfwng neu gefnogi prosiectau ar raddfa fach, fel adeiladu ffynhonnau i ddarparu dŵr glân
Darparu cymorth ar unwaith yn ystod neu yn dilyn trychinebau fel newyn neu tsunami. Mae’n cynnwys bwyd, meddyginiaethau a phebyll.