Mewn project gwyddoniaeth am flodau, mae disgyblion yn cyfri nifer y petalau ar wahanol flodau yn eu gerddi. Dyma ganlyniadau un disgybl: 8, 3, 11, 5, 6, 9, 8, 4, 8, 12, 4
Beth yw rhif modd y petalau ar bob blodyn?
7.5
4
8
Mae rhai ffrindiau’n cymharu nifer y peli pêl-droed sydd ganddyn nhw adref. Mae ganddyn nhw: 1, 0, 4, 1, 3, 2, 6, 2, 1
Beth yw canolrif nifer y peli pêl-droed?
2
1
3
Dyma uchder y 5 pegwn uchaf ym Mannau Brycheiniog:
886 m, 873m, 795m, 769 m a 754 m
Beth yw uchder cymedrig y copaon hyn, i’r metr agosaf?
795 m
815 m
132 m
Beth yw cymedr nifer y brodyr a’r chwiorydd mewn dosbarth yn yr ysgol?
6
1.5
Gan ddefnyddio’r cymedr, mae gofyn i ti gymharu canlyniadau mathemateg dosbarthiadau X1 ac Y1. Pa ddosbarth wnaeth berfformio orau?
Perfformiodd X1 yn well
Perfformiodd Y1 yn well
Mae’n amhosib dweud
Mae cwestiynau 6 i 10 ar gyfer yr haenau canolradd ac uwch
Canfydda gymedr, modd a chanolrif maint esgidiau’r bobl hyn a phenderfyna pa un sy’n cynrychioli’r data waethaf.
1, 5, 4, 7, 1, 12, 8, 6, 1, 5
Canolrif
Modd
Cymedr
Mae 20 ci’n cystadlu mewn cystadleuaeth ystwythder. Cyn y cawn nhw gystadlu, maen nhw’n cael eu pwyso. Dyma’r canlyniadau:
Beth yw’r dosbarth modd?
19 – 24
5 – 9
Beth yw canolrif nifer y calorïau mae’r grŵp hwn o ffrindiau’n ei fwyta?
\[{2,000}~\leq~{c}~\textless~{2,250}\]
\[{1,750}~\leq~{c}~\textless~{2,000}\]
2,125 kcal
Mae 20 o fabanod yn cael eu geni mewn ysbyty mewn un diwrnod. Beth yw pwysau cymedrig y babanod?
6 lbs
4.5 lbs
7.5 lbs
Defnyddia’r amrediad a’r canolrif i gymharu canlyniadau dosbarthiadau X1 ac Y1. Pa ddosbarth wnaeth berfformio orau?
Fe wnaethon nhw berfformio’r un fath
X1
Y1