Tebygolrwydd pellach - Canolradd ac Uwch test questions

1

Beth yw’r tebygolrwydd o daflu dis chwe ochr a chael eilrif?

2

Mae bag yn cynnwys 3 pêl goch, 2 bêl binc a 7 pêl ddu. Beth fyddai’r tebygolrwydd o gael pêl binc?

3

Mae gan Billy fag sy’n cynnwys 9 pêl goch a 3 pêl ddu. Mae ganddo hefyd ddis chwe ochr. Mae Billy yn dewis pêl o’r bag ac yn taflu’r dis. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd yn cael rhif sy’n llai na 5 a phêl ddu?

4

Mae Billy yn amcangyfrif ei fod yn cael gwaith cartref Saesneg mewn chwech allan o bob deg gwers, a’i fod yn cael gwaith cartref Mathemateg mewn tair allan o bob saith gwers. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd ganddo waith cartref mewn Mathemateg a Saesneg?

5

Mae gan Shan becyn o gardiau chwarae. Mae’n gwybod mai’r tebygolrwydd o ddewis clwb, rhaw, calon neu ddiemwnt yw \(\frac{1}{4}\) yr un. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd yn dewis naill ai calon, rhaw neu ddiemwnt?

6

Hoff dîm pêl-droed Claire yw Manchester United. Mae’n amcangyfrif mai’r tebygolrwydd y byddan nhw’n ennill gêm yw \(\frac{7}{10}\), y tebygolrwydd y byddan nhw’n colli yw \(\frac{1}{10}\) a’r tebygolrwydd y byddan nhw’n cael gêm gyfartal yw \(\frac{1}{5}\). Beth yw’r tebygolrwydd y byddan nhw’n colli neu’n cael gêm gyfartal?

7

Mae gan Daniel fag sy’n cynnwys 2 bêl las, 3 pêl goch a 4 pêl felen. Mae’n dewis pêl ar hap, yn ei rhoi i’r naill ochr ac yna’n dewis un arall. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd yn dewis dwy bêl goch?

8

Beth yw’r tebygolrwydd y bydd Daniel yn dewis pêl felen ac yna pêl las?

9

Beth yw’r tebygolrwydd y bydd Daniel yn dewis un bêl felen ac un bêl goch (yn unrhyw drefn)?

10

Edrycha ar y goeden debygolrwydd hon. Pa un o’r digwyddiadau canlynol y gallai’r goeden debygolrwydd hon ei gynrychioli?

Coeden debygolrwydd yn dangos y tebygolrwydd ar gyfer yr ymgais gyntaf a’r ail ymgais