Beth yw damcaniaeth y Glec Fawr?
Damcaniaeth wyddonol ynglŷn â chread y bydysawd
Damcaniaeth ynglŷn â chread yr Haul
Damcaniaeth ynghylch sut y daw’r byd i ben
Beth yw esblygiad?
Canlyniad i ddamcaniaeth y Glec Fawr
Dadl grefyddol ynghylch sut y crëwyd bodau dynol
Mae bodau dynol heddiw wedi esblygu o ffurfiau bywyd cyntefig dros filiynau o flynyddoedd
Pwy ddyfeisiodd ddamcaniaeth esblygiad?
Isaac Newton
Charles Dickens
Charles Darwin
Pa bryd y digwyddodd y Glec Fawr?
1 miliwn o flynyddoedd yn ôl
50,000 o flynyddoedd yn ôl
14 biliwn o flynyddoedd yn ôl
Beth sy’n farn lythrennol ar stori’r creu?
Stori i’w dehongli yw hi
Dyma air Duw, felly dylid ei gymryd air am air
Dylid ei diystyru a defnyddio gwyddoniaeth yn unig
Sut y digwyddodd y Glec Fawr?
Dau gwmwl o ronynnau’n gwrthdaro
Yr holl fater ac ynni yn y bydysawd yn ehangu’n gyflym iawn, nes ffurfio sêr, galaethau a phlanedau
Seren yn mynd i uwchnofa ac yn ffrwydro am allan
Am beth mae H4BW yn sefyll?
Humans for a Better Way - Bodau Dynol o Blaid Ffordd Well
Humanists for a Better World - Dyneiddwyr o Blaid Byd Gwell
Humans for a Better World – Bodau Dynol o Blaid Byd Gwell
Beth mae Dyneiddwyr yn ei gredu am fywyd ar ôl marwolaeth?
Bydd pobl yn mynd i’r nefoedd neu i uffern
Does dim bywyd ar ôl marwolaeth
Caiff bodau dynol eu hailymgnawdoli
Beth yw ystyr rhywogaethiaeth?
Na ddylid trin pob rhywogaeth yn gydradd
Bod pob rhywogaeth yn gydradd
Rhywogaeth sydd â rhagfarn o blaid ei rhywogaeth ei hun
Ar beth mae ymagwedd sefyllfaol yn canolbwyntio?
Yr hyn y mae crefydd benodol yn ei ddweud
Dylid ystyried pob sefyllfa
Y dewis sy’n fwyaf rhinweddol