Cymhareb y grawnwin i’r orenau mewn powlen ffrwythau yw 18:3. Os oes yna 24 o wrawnwin, faint o orenau sydd yna?
72
4
5 1/2
I wneud paent Porffor Pendant rhaid i ti gymysgu paent coch, melyn a glas yn y gymhareb 2:3:4. Os oes gen i 510 ml o baent melyn, faint o baent coch fydda i ei angen i wneud tun o baent Porffor Pendant?
680 ml
170 ml
340 ml
Mae Clare a Frances yn cael £400 i’w rannu gan berthynas oedrannus. Maen nhw’n rhannu’r arian yn y gymhareb 7:9. Faint mae’r ddwy’n ei gael?
£200 i Clare a £200 i Frances
£225 i Clare a £175 i Frances
£175 i Clare a £225 i Frances
Mae Emma, Sarah a Mark yn ennill £60 trwy werthu donyts mewn sêl cist car. Gweithiodd Emma am dair awr, Sarah am bum awr a Mark am ddwy awr. Maen nhw’n rhannu’r arian yn gyfrannol i nifer yr oriau wnaethon nhw weithio. Faint o arian mae Sarah yn ei ennill?
£30
£6
£18
Mae gan Louise a Sam gasgliad o sawl DVD – am bob dwy ffilm cynnwrf sydd gan Sam, mae gan Louise bum comedi. Os oes gan Louise 30 comedi, sawl DVD sydd ganddyn nhw i gyd efo’i gilydd?
105 DVD
42 DVD
12 DVD
Mewn rysàit i wneud 12 cacen fach, mae angen 300 g o flawd. Faint o flawd sydd ei angen ar gyfer 17 cacen fach?
25 g
450 g
425 g
Mae cwestiynau 7 i 10 ar gyfer yr haen ganolradd
Mae hyd darn o bren mewn cyfrannedd union â’i bwysau. Os yw darn o bren yn 30 cm, mae’n pwyso 150 g. Ysgrifenna hafaliad ar gyfer hyd (H) darn o bren mewn perthynas â’i bwysau (P).
H = 0.2 P
H = 5 P
H = 120 P
Mae Pierre yn seiclo pum milltir mewn 20 munud. Ysgrifenna hafaliad ar gyfer yr amser mae’n ei gymryd (a) mewn perthynas â’r pellter mae’n ei seiclo (p) a defnyddia hwn i ganfod pa mor bell mae’n gallu ei seiclo mewn 1 awr a 40 munud.
a = 4 × p
400 milltir
25 milltir
p = 4 × a
Mae nifer y peintwyr sy’n cael eu cyflogi mewn cyfrannedd wrthdro â’r amser mae’n ei gymryd i orffen y gwaith. Os yw pedwar peintiwr yn gallu peintio tŷ mewn pum niwrnod, faint o beintwyr sydd eu hangen i beintio tŷ mewn pedwar diwrnod yn unig?
3
5
7
Mae’r amser mae’n ei gymryd i orffen cylchdro ar gêm gyfrifiadur Speedy Sprints mewn cyfrannedd wrthdro â’r cyflymder cyfartalog a deithiwyd. Os yw’r amser yn dri munud pan fo’r cyflymder = 10 Speedy Sprints, faint o amser mae’n ei gymryd i orffen cylchdro wrth deithio ar gyflymder o 25 Speedy Sprints?
7.5 munud
1.5 munud
1.2 munud