Pryd ddaeth Adolf Hitler yn Ganghellor yr Almaen?
Awst 1934
Ionawr 1933
Medi 1936
Pa gytundeb yr oedd Hitler yn benderfynol o’i chwalu drwy gydol y 1930au?
Cytundeb Versailles
Cytundeb Nazi-Sofiet
Cytundeb Kellogg-Briand
Pa Brif Weinidog Prydain oedd yn cefnogi’r syniad o ddyhuddiad?
Winston Churchill
David Lloyd George
Neville Chamberlain
Pa un o’r datganiadau yma sy’n ddadl yn erbyn dyhuddiad?
Roedd atgofion am y Rhyfel Mawr a’r dioddefaint yn dal i fodoli
Nid oedd UDA a’r Undeb Sofietaidd yn helpu i atal Hitler
Roedd yna deimlad y byddai Hitler yn parhau i fynnu mwy o dir os na fyddai rhywun yn ei wrthwynebu
Beth achosodd i Brydain ddatgan rhyfel yn erbyn yr Almaen?
Y Natsïaid yn ymosod ar Wlad Pwyl, Medi 1939
Cytundeb Nazi-Sofietaidd, Awst 1939
Hitler yn gwladychu Sudetenland yn dilyn Cynhadledd Munich
Beth oedd y ffordd fwyaf effeithiol o ganfod pryd oedd ymgyrch fomio dinas ym Mhrydain yn mynd i ddigwydd?
Ysbiwyr Prydeinig yn gweithredu yn llu awyr yr Almaen
Canfod awyrennau’r Luftwaffe drwy ddefnyddio radar
Spitfires Prydain yn canfod awyrennau’r gelyn
Pam na gonsgriptiwyd rhai dynion i luoedd arfog Prydain?
Nid oedden nhw’n cytuno â’r rhyfel
Roedden nhw’n gweithio yn y Gyrfaoedd Neilltuedig, ac yn cael eu hystyried fel gweithwyr â sgiliau pwysig.
Roedd gan fyddin Prydain ddigon o wirfoddolwyr
Beth oedd yr enw a roddwyd i’r gwirfoddolwyr oedd wedi eu harfogi a’u hyfforddi i amddiffyn trefi a dinasoedd Prydain petai lluoedd yr Almaen yn glanio’n llwyddiannus?
Y Fyddin Gartref
Y Gwarchodlu Cartref
Yr Elît Prydeinig
Pa frwydr a gollwyd yn dechnegol ond a ystyriwyd fel buddugoliaeth?
Stalingrad
Bulge
Dunkirk
Pa un o’r rhain oedd yn rôl wardeiniaid ARP?
Roedden nhw wedi eu harfogi a’i hyfforddi i amddiffyn trefi a dinasoedd Prydain
Roedden nhw’n cerdded o gwmpas y strydoedd yn sicrhau bod pobl yn diffodd eu goleuadau yn ystod y nos
Roedden nhw’n canfod awyrennau drwy ddefnyddio tonfeddi radio