Trosglwyddir y firws HIV trwy pa un o’r dulliau hyn?
Cyfathrach rywiol
Trosglwyddiad defnynnau drwy’r aer
Bwyd halogedig
Pa effaith y mae heintiad â’r bacteria Chlamydia trachomitis yn ei chael ar yr unigolyn?
Wnaiff ei system imiwnedd ddim gweithio’n iawn
Gall ddioddef anffrwythlondeb
Bydd yn dioddef poenau a thwymyn
Pa un o’r clefydau hyn y gellir ei drin â gwrthfiotigau?
Malaria
Chlamydia
HIV
Pa fath o gelloedd gwaed sy’n cynhyrchu gwrthgyrff?
Ffagocytau
Erythrocytau
Lymffocytau
Pa foleciwlau â siâp penodol sy’n gorchuddio arwyneb micro-organebau?
Gwrthgyrff
Gwrthdocsinau
Antigenau
Pa gelloedd sy’n aros yn llif y gwaed ar ôl heintiad cyntaf?
Celloedd bacteriol
Celloedd ffwngaidd
Celloedd cof
Pa un o’r rhain sy’n annog twf bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau?
Peidio cwblhau’r cwrs gwrthfiotigau
Peidio defnyddio digon ar wrthfiotigau
Rhagnodi gwrthfiotigau priodol yn unig
Pa un o’r rhain sy’n ddull a ddefnyddir i reoli lledaeniad yr arch-fỳg/superbug MRSA?
Defnyddio geliau alcohol ar y dwylo
Gwrthfiotigau
Cyffuriau gwrthfirws
Gyda pha fathau o gelloedd y caiff celloedd dueg y llygoden eu hasio wrth gynhyrchu gwrthgyrff monoclonaidd?
Myeloma
Hybridoma
Lymffocyt
Beth yw’r term am yr antigenau penodol ar arwyneb rhai celloedd canseraidd?
Marcwyr canser
Marcwyr tiwmor
Sticeri tiwmor