Mae Tim yn ymarfer ar gyfer y ras wib 100 m. Mae’n gallu gorffen ras mewn 12 eiliad. Beth yw ei gyflymder?
0.12 m/eiliad
8.33 m/eiliad
1,200 m/eiliad
Hoffai Barry wybod pa mor bell yw hi o’i dŷ i’r ganolfan chwaraeon leol. Mae’n amcangyfrif bod ei gyflymder cyfartalog pan mae’n gyrru yno tua 25 milltir/awr a’i bod yn cymryd 15 munud iddo gyrraedd yno. Gan ddefnyddio amcangyfrifon Barry, beth yw’r pellter bras o dŷ Barry i’r ganolfan chwaraeon? Rho dy ateb mewn milltiroedd.
6.25 milltir
375 milltir
100 milltir
Mae Sian yn hoff iawn o seiclo ac yn bwriadu cymryd rhan mewn ras 50 km yr wythnos nesaf. Mae’n gwybod mai 12.5 km/awr yw ei chyflymder cyfartalog ond hoffai wybod faint o amser fydd hi’n ei gymryd i orffen y ras. Faint o amser ddylai Sian ei gymryd i orffen y ras?
4 awr
635 awr
40 awr
Mae cwestiynau 4 - 10 ar gyfer yr haenau canolradd ac uwch
Hoffai Bill wybod a yw ei oriawr boced wedi ei gwneud o aur solet. Dwysedd aur solet yw 19.3 g/cm3. Mae’n gwybod mai 120g yw màs ei oriawr ac mae ganddi gyfaint o 8 cm3. Beth yw dwysedd yr oriawr?
19.3 g/cm3
6.22 g/cm3
15 g/cm3
Ar hyn o bryd, mae Banc Lloegr yn cadw 238 m3 o aur mewn cromgell yn ddwfn o dan strydoedd Llundain. 19,300 kg/m3 yw dwysedd aur. Beth yw màs yr aur?
4,593,400 kg
81.09 kg
0.01 kg
Beth yw effeithlonrwydd tanwydd tanc os yw’n gallu teithio pedair milltir ar ddau alwyn o betrol?
8 MYG
0.5 MYG
2 MYG
Beth yw cwmpas car hybrid ac effeithlonrwydd tanwydd o 45 MYG, a thanc petrol a chynhwysedd o naw galwyn?
5 milltir
405 milltir
450 milltir
Mae Charlie yn gwybod bod petrol yn costio £5.80 y galwyn. Faint y bydd yn ei gostio iddi deithio naw milltir i’r archfarchnad leol os yw effeithlonrwydd tanwydd ei char yn 30 MYG?
£1.74
£19.33
£0.30
Mae poblogaeth Dulyn, prifddinas Iwerddon, tua 1,000,000 ac mae’n gorchuddio arwynebedd o 355 km2. Beth yw dwysedd poblogaeth Dulyn?
355,000,000 person y km2
2,816.9 person y km2
2,816.9 km2 y person
Hoffai Britney amcangyfrif poblogaeth ei pentref. Mae’n edrych ar yr ardal leol ac yn amcangyfrif bod yna 108 person fesul km2. Mae’n gwybod trwy edrych ar fap bod arwynebedd y pentref yn 6.5 km2. Gan ddefnyddio amcangyfrifon Britney, beth yw poblogaeth y pentref?
94 person
7,020 person
702 person